Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/4

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ngwarig i, ac yn ddigon hen i fod yn famgu i chwi, wedi derbyn cannoedd o blant i'r byd cyn hyn, o gystal gwaedoliaeth a chwithau Syr, ac os gallaf gael eich enw, mi a'ch mynaf o flaen eich gwell!!!

Offeiriad yn ngwlad yr Haf oedd yn glaf iawn, a phawb yn tybied na allai fyw yn hir, gan mor isel ydoedd; yr hyn, pan clywodd un o'i gyfeillion parchedig, ni orphwysodd cyn myned at yr esgob i erfyn am yr eglwys, ac fe dybir na fu ei siwrnai'n ofer o ran addewid, ond O siomedigaeth! fe wellodd y gŵr eglwysig drachefn, ac yn fuan clywodd am yr ymroad oedd wedi cael ei wneuthur yr amser oedd yn glaf a digiodd yn arw wrth ei frawd; a'r tro cyntaf y cwrddodd ag ef, efe a ddannododd iddo, ei fod yn ddyn twyllodrus, ac er y lliw o gariad ag oedd yn ddangos, ei fod wedi deall yn ddiweddar, nad oedd hyny ond rhagrith; waith mi a wn eich bod yn dymuno fy marwolaeth; yn wir yr ydych yn camsynied, ond y mae eich Personiaeth yn ddymunol.

Sion Cent, wedi sylwi ar hen gyfaill iddo, ei fod wedi gwisgo ei ddillad nes oedd yr edafedd yn noeth, a ofynodd iddo, Os oedd dim eisiau cysgu arnynt? Pa ham yr hydych yn gofyn, ebe ei gyfaill. Yr wyf yn credu, eu bod heb fawr esmwythder er ys saith mlynedd.

Mab ieuanc o Ruthin, oedd yn ymegnio yn fawr i gael gan ferch oedd ychydig o flynyddau yn ieuangach nag ef i sylwi arno, yr oedd â'i holl ddymuniad ar ei gwneud hi yn wraig briod; ond mewn cwmpeini difyr yn Wrexam, efe oedd y ffraethaf o'r holl gyfeillach; parodd hyn i'r eneth ganmol ei ffraethineb, a harddwch ei synwyr yn fawr, yntef a ofynodd ei meddwl; Yn wir y mae pob peth bach' yn hardd, felly eich synwyr chwithau, nid yw ond bach.

Gwr bonheddig oedd wedi cyflogi gwas, un genedigol o'r Iwerddon; y meistr a geisiodd ganddo i fyned hyd arwydd y badell, i ymofyn am rhyw beth ag oedd of wedi adael ar ei ol; y gwas a aeth, ond ni wnaeth fel y gorchymynodd ei feistr, method gael gafael yn y tŷ, yr hyn a wnaeth i'w feistr ymgynddeirogi, a'i alw yn pen-dew, dall, &c. Cychwynodd ei feistr mewn llid, gan ddweud y dangosai efe y tŷ, os oedd llygaid ganddo i