Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/5

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganfod; gydd hyn, fe arweiniodd ei feistr i'r tŷ, gan ddweud wrtho am edrych yn awr; trwy eich cenad, ebe Pat, chwi ddywedasoch wrthyf am arwydd y badell, ond yn lle yr arwydd, y Badell ei hunan sydd yna, gellwch ei theimlo.

Dau gyfaill, wrth ddawmwain a gyfarfuant â'u gilydd ar ol hir absennoldeb, un o honynt oedd yn llwm iawn, a'r llall beth yn well, efe a ofynodd i'r tlawd, pa le yr oedd yn byw? yn byw, ebe yntau, nid wyf yn byw yn ua lle, ond yr wyf yn starfio gerllaw Llechryd.

Dau Gymro, wedi gorwedd noswaith yn Inverness, yn Scotland, ond yr oedd gormod o greaduriaid yn y gwely i gysgu llawer, codasant yn fore; aeth un o honynt yn gryn giaidd ar draws y rhai mwyaf llesg, rhegodd y llall ef gan ei gynghori i sicrhau y gŵyr meirch, y caent fwy o amser i ymddial ar y gŵyr tared wrth eu pleser.

Merch wledig, oedd yn byw yn agos i Liverpool, oedd yn dyfod o farchnad Warrington ag asen ganddi; yr oedd yr asen yn fywiog yn pedwar-carnu am fod ei hebul gartref, braidd yr oedd y ferch yn gallu ei dilyn; ond ar y ffordd, cyfarfu y ferch â gwr-boheddig, yr hwn a ofynodd iddi, I ba le yr oedd hi yn myned? hithau a attebodd, mai tua Liverpool; gofynodd wedi hyny, os oedd hi yn adnabod Miss M. G. oedd yn byw yn agos i eglwys Saint Nicholas, ydwyf, ebe hithau, O, byddwch mor garedig a chario y cusan hyn iddi; gydâ hyny, efe a ddododd ei freichau am dani, ond hi ddadrisodd ei hun o'r afael, ac a ddywedodd wrtho, Syr, syr, os ydych mewn cymmaint o frys am ei anfon i'r ferch, mi a'ch cynghorwn i roddi y cusan i'r asen; hi a fydd yno yn mhell o'm blaen i.

Mewn pentref yn agos i Fforest Nottingham, y gauaf diweddaf, dygwyddodd i dri dyn gael lletty mewn tafarndy, Ysgolhaig, Dyn penfoel, ac Eiliiwr; ond er mwyn diogelu eu hunain rhag eu hyspeilio, cytunasanc I wylied bob yn ail dair awr; syrthiodd yn rhan yr eilleiwr i wylied'y tair awr gyntaf, a tra bu y ddau ereill yn cysgu, fe eilliodd y gwyliwr ben yr ysgolhaig, canys ei dro ef oedd i wylied yr ail dair awr; dechreuodd hwnw