Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/6

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gosi ei ben, a chan ei deimlo yn foel, fe ddechreuodd regu'r eilliwr, ei fod wedi ei dwyllo, Myn d——l, yr wyf wedi dihuno y dyn penfoel yn fy lle.

Mewn chwareudŷ yn Llundain, yn ddiweddar, yr oedd rhyw ran o'r chwareu i gael ei wneuthur gan un yn sefyll ar y naill droed, yr oedd yn broelio yn fawr nad oedd neb a allai sefyll cyhyd ag ef yn y dull hyny; ond, ebe Cymro, o Lanfairmuallt, oedd yno wedi dyfod o ddamwain, Beth y mae y dwndiwr cythraul yn bostio? pe buasai hên geiliog-gwydd fy nhad yma; fe fuasai yn sefyll ar y naill droed y tri chymmaint.

Llanc gwladaidd o Gwmaman, unwaith a aeth i Abertawe, ac i'r dyben i beidio bod yn nyled ei gylla; fe aeth i un o'r tafarndai penaf yn y dref i giniawa, lle yr oedd pob math o ddysgleidiau wedi eu harlwyo, a'u gosod ar y bwrdd, yntau, yn anghyfarwydd mewn llawer o foesgarwch, a hoffodd ddysglaid o farchysgall, (artichokes,) er na wyddai pa beth ydoedd, na phwy ran oedd at fwyta, ond yn ei wanc, fe gydiodd yn galonog mewn cilfoched o'r rhan ysgallog; pa rai wrth geisio eu llyncu, a fuant yn mron a'i dagu. Ond y gŵr oedd yn eistedd nesaf ato, a adnabu ei lewyg wrth ei weled yn ymestyn ei wddf, a ddywedodd wrtho, Syr, y ddysglaid yna sydd i fod ddiweddaf. Yr wyf yn eich credu, ebę yntau, dan lewygu, y bydd y diweddaf i mi, nid oes fawr rhyngddo i a thagu.

Gwr o'r Amwythig, oedd yn sefyll wrth bont Aberhonddu, a ofynodd i un oedd yn myned heibio, pa beth i chwi yn galw yr afon hon? ei galw, ebe y dyn, ni alwais i ddim arni, ac ni chlywais i neb arall, y mae bob amser yn dyfod heb ei galw.

S. E. o Landydoch, a chwennychodd gusan gan ferch o'r gymmydogaeth, ond wedi iddo wneud ei oreu, nid oedd hanner cystal a'i ddymuniad; ei thrwyn hi oedd o faintioli mwy nâ chyffredin, hyn a barodd iddo achwyn, a dweud wrthi, ei fod yn tebyg y cytunai y ddau fin pe buasai y trwyn yn cydsynio. Pw, pw, ebe hithau, peidiwch â blino, ewch at y pen arall, ni fydd yno un trwyn yn rhwystr.

Gwr bonheddig aeth i hela, ac ni fu efe a'i gyfeillion