Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser mawr cyn iddynt gael y pleser o glywed y cwn yner, llafar—udo, a chadnaw yn rhedeg o'u blaen, heb fawr fater am eu cyfeillach; nid oedd efe hefyd yn ofalus iawn am lwybr têg, fel ag y collodd y marchogion olwg ar yr helfa: un o honynt a ddygwyddodd ganfod tir gwlybaidd o'i flaen, yr hyn a wnaeth iddo ofyn i ddyn oedd yn cloddio gerllaw, os oedd yno waelod sicr, Oes ddigon sicr, ebe y cloddiwr; erbyn hyny, yr oedd y ceffy!, hyd y cenglau, ac yn bygwth myned o'r golwg; yna fe ddechreuodd y marchogwr regu a dannod ei gelwydd i'r cloddiwr, am haeru ei fod yn sicr fod yno waelod da, mae yna waelod sicr, ebe y cloddiwr, ond rhaid i chwi fyned yn ddyfnach cyn cwrdd ag ef.

Dau gyfaill, wedi cyfarfod yn ddiweddar, yn agos i'r Gelly, ar ol iddynt gyfarch eu gilydd, gofynwyd helynt y naill i'r llall. Yr wyf wedi priodi wedi i mi eich gweled, ebe un o honynt; Newydd da.—Nid mor dda; yr oedd ganddi dafod drwg. Dyna drueni; Nid cymmaint o drueni; waith mi gefais ddwy fil o bunnau o waddol gydâ hi.—Dyna gysur; Nid cymmaint; prynais ddefaid a hwynt, a'r defaid oll a drigodd.—Dyna dṛallod; Nid yw y trallod gymmaint ag i chwi yn debyg; cefais fwy am y crwyn nag y dalais am y defaid. Wrth hyny, yr ydych yn ddigolled. O, nag ydwyf, waith fe losgodd y y tŷ, a'r holl arian ynddo.—Och y fi, dyma aflwydd erchyll! Syr, yr oedd lle fod yn waeth, cefais wared o'r wraig a'i thafod ar unwaith, yn y tan.

Gwr bonheddig o Sir———, a aeth i ymofyn llais (vote) ffermwr o'r gymmydogaeth, erbyn yr etholiad diweddaf, yr oedd yn addaw llawer o bethau; yn enwedig, arferyd pob moddion i newid y ministry, a mynu rhai newyddion; O, ebe y ffermwr, ni chewch ddim o'm vote i ar y telerau yna, Pa ham, ebe yr ymgeisydd? yr oeddwn bob amser yn eich cyfrif chwi yn gywir i'ch gwlad; felly yr ydwyf, ebe y ffermwr, a dyna yw yr achos fy mod am gadw yr hen rai yn eu llefydd. Yr wyf yn gwybod pa fodd yr wyf yn cadw fy moch; pan byddwyf wedi eu prynu hwynt yn druain, fe fydd y wangc wyllt arnynt, ni bydd modd i'w llanw, ond wedi iddynt ddechreu tewhau, nid yw eu colyddion mor afresymol, na'u cadwriaeth mor draulfawr, am hyny, yr wyf am gadw yr hen rai yn eu swyddau, hwy a ddifant lawer yn llai.