Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/8

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Saer o Lanidloes, a wysiwyd i roddi tyftiolaeth mewn llys, am sarhâd ag oedd wedi cael ei wneuthur gan un cymmydog i'r llall; un o'r cyfreithwyr a guchiodd yn arw arno yn ei ffordd, gan ofyn iddo yn mhlith pethau, ereill, Pa faint o ffordd oedd rhyngddo chwi a'r dyn acw pan tarawodd ef y dyn arall? Pedair troedfedd, pedair modfedd a hanner. A pha fodd y buoch chwi mor fanwl, ebe y temptiwr? Yr oeddwn yn meddwl y buasai rhyw un gymmaint o ffŵl a gofyn, ac felly mi a'i mesurais.

Coges, mewn tafarndŷ, yn Aberystwyth, oedd o berchen llawer o ffraethineb, fel y sylwodd meddyg enwog arni; yr hyn a barodd iddo ofyn iddi pa fodd y daeth iddi gymaint o synwyr; pa le y dylai fod ond yn y siol; yr wyf yn trafod wyth neu ddeg bob wythnos, ac o'r cwbl, ni chefais un mor wâg a'ch siol chwi; ar hyny, ceisiodd genad ganddi gael gosod ei law ar ei mynwes dyner, hithau a ddywedodd wrtho, os am le tyner oedd am iddo ei gosod ar ei dalcen ei hun, gan fod y man hy ny mor dyner ag un man.

Gwr o drwsiad lled dda, a gymmerwyd gan y pressgang, yn Heol-y-Geifr, yn Abertawe, o ddeutu mis yn ol y gŵr a frochodd yn arw am eu heondra, a dweud wrthynt y perygl oeddynt yn dodi eu hunain yn agored iddo, wrth aflonyddu gwr bonheddig, o'i fath ef; Gwr bonheddig, ebe llywydd y gang; Ië, ebe yntau; Ymaith âg ef fechgyn, ebe y llywydd, dyma y dyn oedd arnom eisiau; caiff y tair dwsin o ddiffaithwyr a gawsom boreu heddyw dan ei law i'w dysgu yn foesgar.

T. a ddywedodd wrth M. tybiais i chwi ddweud wrthyf, fod y dwymyn ag oedd ar ein cyfaill G. wedi myned ymaith; Do yn siwr, ebe M. ond mi anghofiais ddweud iddo yntau fyned ymaith gydâ'r dwymyn.

Yn Milfwrt, dygwyddodd i wr ieuanc ddweud, fod ei dad, ei dadau, a'i hen dadau, wedi meirw ar y mor. Yn wir, ebe un o'r cwmp'ni, pe bawn i fel chwi, nid awn byth i'r mor, Pa ham, ebe yntau, Am fod eich holl berthynas wedi meirw yno; Attolwg, pa le bu eich teidiau chwithau feirw? 'yr atteb oedd, yn eu gwelyau, Och! rhaid i chwithau beidio myned byth i'r gwely.

Gwyddyl, wedi'r barnwr roddi dedryd marwolaeth