Tudalen:Y Digrifwr Cymraeg.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arno, a ddeisyfodd gael un ffafr yn y drefn o hongian. Gofynodd y barnwr iddo, beth oedd? Coglais enbyd sydd ar fy ngwddf, a byddai yn well genyf i chwi beri gosod y cebystr am fôn fy mreichiau, O, ebe y barnydd, y mae eich cais yn anmhosibl ei ganiatâu, y gyfraith sydd yn dweud y "gwddf" yn bendant. Y Gwyddy! a ofynodd wedi hyny, os oedd y gyfraith yn pennodi pwy bren, os nad oedd, y byddai yn ddymunol iawn ganddo i gael dewis y pren; I hyn yr attebwyd yn nacâol, gan ei genadau i ddewis un rhyw bren, ac iddo gymmeryd ei feddwl yn fuan. Y Gwyddyl a ddywedodd nad oedd achos iddo astudio yn hir, gan ei fod wedi meddwl am hyny yn mlaen llaw, ar hyny, fe geisiodd gan y barnwr beri i'r sirydd i barotoi pren gwsberies: Oh, Oh, ebe y barnwr, nid oes un o'r coed hyny yn ddigon cryf, Pwy fater am hyny, ebe y Gwyddyl, yr wyf fi yn foddlon i aros iddo dyfu.

Y drwg-weithredwr uchod, cyn ei fwrw i garchar oedd mewn tafarndŷ yn Wapping, yn ymffroftio yn fawr ar ei ddewrder a'i galondid; yn mhlith geiriau ereill, fe honnodd iddo wneud i ddeg ar hugain o ddynion cryfion redeg ei gwaethaf; Nid yw hyn ond llafn o gelwydd, ebe un o'r cwmpeini, Nid celwydd ebe yntau; yr oeddwn i yn rhedeg i ffoi, ac ychwaneg nå deg ar hugain yn rhedeg i geisio fy nala.

Cyfreithiwr ac offeiriad, wedi cyfarfod yn ddiweddar yn y Mwythig, a dechreu dadleu â'u gilydd yn nghylch llawer o bethau; o'r diwedd, a aethent i areithio yn lled helaeth yn enwedig ar y pwnc, Pa beth yw onestrwydd: ac wedi i'r ddau wneud llawer o sylwadau ar y testun, yn nghlywedigaeth llawer o'r Cwmpeini, o'r diwedd, fe flinodd un o'r cyfeillion ar y ffregod, gan ddweud wrthynt, Wyr boneddigion, nid oes dim dadl genyf nad ydych yn berchen synhwyrau a chynheddfau helaeth, ond peidiwch a chwedleua am eiddo ereill.

Gwyddyl oedd yn clywed dau o'r Ffrancod yn sylwi ar un o fyddinoedd (regiments) Buonaparte, yr hon sydd yn cael ei galw "annorchfygol," pan gorfu gilio yn mrwydr——; y Ffrancod oedd yn penderfynu body milwyr glewaf yn yr holl fyd wedi eu maeddu, O, nag ydynt, ebe Pat, yr oedd y fyddin a wnaeth iddynt redeg, yn sicr o fod yn drech.