Tudalen:Y Gestiana.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Parcel uchaf, neu "Gest uwch y Llyn" sy'n cychwyn wrth y ffrwd o dan Gwt-y-defaid, a dilynir y ffrŵd gyda therfyn y Garreg felen, yn terfynu â Bryntŵr y Wern, a'r Bontfaen, i fynu gyda therfyn Gwernyddwyrig neu Gwern moreddig, at derfyn Cefnymeusydd uchaf, gyda thir Pwll budr, (sef Glanbyl,) a chyda'r ffrŵd sydd yn terfynu tir Cefuperfedd bach a Chefnperfedd mawr, i Bencaenewydd, i le a elwir Ffrwd goch, ger capel Golan, ac i lawr gyda'r un ffrwd i waelod tir Ty'urhos, a thrwy rano dir Tyddyn madyn a Drwsdeugoed, i fynu gyda'r ffrwd sy'n terfynu Ymwlch bach, a thir Llwynymafon ucha', trwy'r Gors hyd at derfyn Ymwlch fawr, a chyda'r ffôs sy'n rhedeg oddiwrth glawdd gardd Bachysaint, o dan feudy "Tir y Gest," ac i lawr heibio i Ffynnon Dunawd at der- fyn Eisteddfa, drwy ran o dir Mynydd du, at Ystumllyn, a'r Geneu Mygram, tu isaf i Eglwys Sant Cynhaiarn, hyd at Borthyrhirfaen, o dan Cae Shon, gyda therfyn y Garregfawr, a Garthymorthin i'r Glogyrog; terfyna yno â thir Bronyfoel, o dan gapel y Brynmelyn, ac i'r ffrŵd sydd gerllaw y lle a elwir "Cloddfa Shon Prys," lle mae Cledrffordd y Cambrian yn gadael y ffordd fawr ger Pont y Wern, o dan Cwtydefaid lle cychwynwyd, dyna gerdded yn fras dros derfynau plwyf Ynyscynhaiarn.

Fel y dywedwyd, y tebygrwydd yw, fod terfynau Tre'r Gest yn gydfynedol ac eiddo'r plwyf, o ran dim a ellir ei gael allan, gan ei fod yn terfynu i'r gorllewin â Maenoriaeth Criccieth; i'r gogledd a'r gogledd-orllewin â Thre Dolbenmaen, â Maenoriaeth Glynhenwy, neu Clenneney; i'r gogledd â Thre'r Gorllwyn, ac i'r dwyrain a'r de-ddwyrain terfyna y Cwmwd â'r môr a'r Traethmawr.

Dau reswm sydd i'w roddi dros fod terfynau Plwyfi a Hendrefi mor anghyriog, sef Perchenogaeth Tirol y Tywysog lleol, a chyd- gasgliad Tyddynod gan Rydd-ddaliadwyr i wneyd i fyny blwyf, er mwyn adeiladu lle cymwys ynddo i addoli Duw, sef yr Eglwysi, pa rai a adeiladwyd ar y cyntaf gan y Perchenogion Tirol, y rhai a gyfranent o gynyrch eu tiroedd at gynal Gwasanaeth Dwyfol.

FFIN YMDEITHIAD.—Hen arfer yn y wlad tua 80 mlynedd yn ol, ac hefyd yn Mhlwy'r Ynys, fyddai i'r Periglor, y Gwarcheidwaid, a'r plwyfolion, yn cael eu dilyn gan y plant a fyddent bob amser gyda hwy, fyned o amgylch terfynau y plwyf unwaith yn y flwyddyn, neu fel y dywedid, "cerdded y terfynau." Cymerai hyn le yn gyffredin tuag wythnos y Dyrchafael, ac yr oedd "Homili" i'w ddarllen yn yr Eglwys gynt, cyn cychwyn y daith gwmpasog hon.