Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hir, a rhywbeth llwyd, tal ar ei phen, heb adael dim o'i hwyneb yn y golwg—Lleian Lwyd (Grey Nun) yn symud ac aros, symud ac aros yn hir, ac yna diflannu'n sydyn.

Yr oedd yn rhy ddiweddar i alw ei mam a Gwyn, oherwydd yr oedd y ddrychiolaeth, neu beth bynnag oedd, wedi mynd o'r golwg. Ai ysbryd oedd? A welai un ysbryd wrth olau dydd? Os lleian yn wir ydoedd —a gwisg lleian yn sicr oedd amdani—o ba le y daethai? A beth a wnâi lleian unig ar draeth pell yn y bore bach? Ac i ba le yr aeth pan ddiflannodd? Yr oedd ar Siwan awydd rhedeg allan a holi pawb a thynnu eu sylw at y peth rhyfedd, ond diau bod pawb yn y pentref yn cysgu—a'r Lleian Lwyd a hithau yn edrych ar ei gilydd ar draws y môr. Aeth i'r gwely a'i meddwl yn dryblith, a bu'n hir yn effro. Ond pan ddaeth amser codi yr oedd yn cysgu'n drwm.

PENNOD II

CLYWODD, fel o bell, lais ei mam yn ei galw i godi. Pan ddeffrodd yn iawn yr oedd ei mam eisoes wedi mynd i lawr. Rhwbiodd ei llygaid a meddyliodd am funud mai breuddwydio a wnaethai am y Lleian Lwyd. Ond gwelodd yr ysbienddrych ar y gadair, a daeth y cwbl yn glir i'w chof. Brysiodd i wisgo a mynd i ddweud yr hanes. Ond chwerthin am ben ei stori a wnaeth Gwyn a'i mam.

"Lleian Lwyd! Dyna feddyliau sy'n dod i'th ben di, Siwan! O ba le y deuai lleian lwyd, neu leian,