Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wen, neu leian ddu, i le fel hwn, a neb yn gwybod dim amdani? Rhyw fenyw a siôl lwyd dros ei phen yn casglu coed tân oedd yno."

"Ond, mam fach, pump o'r gloch oedd hi!"

"Rhyw ffarmwr wedi bod yn edrych am ei ddefaid oedd yno," ebe Gwyn yn derfynol.

"Defaid, wir! 'Doedd dim dafad yn agos.

"Dyna fe, wel di. Oen oedd wedi mynd ar goll."

"O'r gore," ebe Siwan. "Os gwela i hi eto bore fory fe'ch galwaf eich dau. Fe gewch weld drosoch eich hunain wedyn, a 'rwy'n mynd i holi'r cynta wela i heddiw."

"Na, paid â gwneud hynny, Siwan. Paid â sôn am Leian Lwyd a phethau felly ar ein bore cyntaf ni yma, neu efallai y bydd rhai yn meddwl dy fod wedi colli ar dy synhwyrau. Cofia beidio â dweud gair wrth Mali Morus."

Mali Morus oedd y fenyw a ddeuai yno i'w helpu roddi eu tŷ mewn trefn—un o hen gydnabod Mrs. Sirrell, heb newid llawer oddi ar y dyddiau hynny, a heb newid ei henw hefyd. Danfonasent eu dodrefn o'u blaen, a Mali oedd yno i'w derbyn, ac i'w derbyn hwythau wedyn.

Y syndod cyntaf ynglŷn â'r plant iddi hi, ac i bawb ym Min Iwerydd, oedd eu Cymraeg dilediaith, a hwythau wedi eu geni a'u magu ym Mryste. Ond yr oedd rheswm am hyn. Yr oedd Mrs. Sirrell yn ddigon call i gymryd arni beidio â deall y plant pan siaradent Saesneg â hi ym mlynyddoedd cyntaf eu hysgol. Wedi hynny bu ei thad yn gwneud ei gartref gyda hi ym. Mryste am rai blynyddoedd cyn ei farw, ac yr oedd Meredydd Owen yn sgolor Cymraeg da, a dysgodd fwy