Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r plant am Gymru a Chymraeg nag a ddysgodd llawer mewn coleg.

"A gawn ni fyw yn y tŷ yma mwy am byth, mam?" gofynnai Gwyn.

"Mae e i fi cyhyd ag y bydda i'n dewis aros yma. Fe fyddwch chi'ch dau yn tyfu ac yn mynd, mae'n debyg, fel plant eraill."

"Ond fe ddeuwn yn ôl yma o bob man. Fe fuaswn i'n folon mynd yn forwyn i Nwncwl Ifan neu wneud unpeth iddo am ei garedigrwydd inni," ebe Siwan.

"Efallai y cei di neu Gwyn gyfle i dalu'n ôl iddo mewn rhyw fodd. 'Dalla i wneud dim llawer mwy," ebe Mrs. Sirrell yn drist.

"O, mam, beth wyddoch chi am y dyfodol?" ebe Siwan.

Pan glywsai Ifan Owen, brawd Mrs. Sirrell, dwy flwydd yn ieuengach na hi, am awydd ei chwaer i ddyfod yn ôl i'r hen ardal i fyw, daethai i Fin Iwerydd yn unswydd i chwilio am dŷ iddynt.

Nid oedd tŷ i'w gael am arian yn y pentref, ond dywedwyd wrth Ifan Owen fod tŷ mawr Cesail y Graig yn wag ac ar werth. Gwyddai Mr. Owen amdano oherwydd bu digon o sôn amdano pan adeiladwyd ef gan y dyn hwnnw o Lundain, a'i adael wedyn ar ôl byw yno am flwyddyn. Yr oedd wedi bod yn wag am ddwy flynedd. Yr oedd yn well gan bobl Min Iwerydd fyw yn ymyl ei gilydd. Safai'r tŷ tua hanner milltir o'r pentref—a mynd dros y bencydd a chuddid y pentref yn llwyr oddi wrtho gan fraich y clogwyn. Nid oedd ffordd iawn i fynd iddo. Deuai'r ffordd fawr ar hyd fferm y Faenol, ac yna byddai'n rhaid croesi dau o gaeau’r fferm ac yna disgyn yn