Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu raid i Siwan a Gwyn weithio'n galed y dydd cyntaf hwnnw i helpu Mali a'u mam i roddi pethau mewn trefn yng Nghesail y Graig, ac ar ei ddiwedd yr oeddynt yn rhy flinedig i fynd lawr i'r pentref. Safodd Siwan, er hynny, yn hir wrth y ffenestr wrth fynd i'r gwely, a thybiai fod y clogwyni duon yn gwenu'n wawdus arni am na ddaeth y lleian i'r golwg. Cododd drannoeth am hanner awr wedi pedwar. Yr oedd y môr yn dawel fel llyn, ac yn llenwi'r bae fel nad oedd rhimyn o draeth i'w weld, ac nid oedd neb yn y golwg ond y gwylain, na sŵn i'w glywed ond eu cri leddf hwy.

PENNOD III

AETHANT yn gynnar y prynhawn hwnnw trwy bentref Min Iwerydd, ac i'r traeth. Yr oedd ganddynt draeth bach caregog iddynt eu hunain yn ymyl eu tŷ pan fyddai'r môr ar drai, ond yr oedd arnynt awydd ymgymysgu â phobl. Yr oedd lle prysur iawn ar y traeth y bore hwnnw. Yr oedd tymor yr haf a'r ymwelwyr ar ddechrau, ac yr oedd yn rhaid paratoi'r cychod. Yr oedd yno nifer da ohonynt, rhai yn cael eu trwsio a'u diddosi o'r tu mewn, eraill wyneb i waered ar y traeth yn derbyn cot newydd o baent. Nid oedd un yr un fath yn hollol â'r llall. Yr oedd yno bob lliwiau ohonynt—du i gyd, neu wyn i gyd, du a gwyn, glas a gwyn, coch a glas, coch a du, ac yr oedd yno un newydd ei olwg o liw glas ysgafn y môr. Un newydd oedd yn wir. "Y Deryn Glas" oedd ei