Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am drefniadau Siwan gyda'r cychwr Fred Smith, a gwrthododd addo mynd ei hunan na chaniatâu i Siwan a Gwyn fynd hyd oni châi hi amser i wneud ymholiadau pellach.

Yr oedd Siwan yn siomedig. Yr oedd hi'n ddigon di-ofn i fentro i rywle ar fôr neu ar dir, a phawb a phopeth yn ei herbyn. Safodd wrth y ffenestr eto hwyr a bore, a'r ysbienddrych yn ei llaw yn barod. Ac yn y bore, am bump o'r gloch fel o'r blaen, gwelodd yn eglur y peth a welsai o'r blaen. Y tro hwn estynnai'r Lleian ei dwy fraich allan i'w chyfeiriad hi, a sefyll yn yr unfan. Gwaeddodd Siwan yn wyllt:

"Mam! Mam! Gwyn! Gwyn! Dewch! Dyma hi! Dyma'r Lleian Lwyd fel o'r blaen!"

Ni chlywodd Gwyn air. Cysgai'n rhy drwm. Rhedodd Mrs. Sirrell cyn gynted ag y gallai at y ffenestr, ond nid oedd yno ddim erbyn hynny. Diflannodd y ddrychiolaeth yn sydyn.

"Ai ataf i yn unig y mae ei neges?" meddai Siwan wrthi ei hun. "Ai crefu am ryw garedigrwydd oddi wrthyf fi a wnâi wrth estyn ei breichiau allan? Nid oes son bod neb arall wedi ei gweld. O, fe fynnaf weld pwy yw, a beth a gais.

Crynai gan gyffro a braw. Yr oedd ei mam hefyd yn dechrau meddwl bod rhywbeth yn od yn y peth. Merch ei thad oedd Siwan!

"Dere nol i'r gwely, 'merch i," ebe hi'n dyner, "a phaid â meddwl pethau rhyfedd."

"O!" ebe Siwan, mewn hanner ochenaid, a rhoi ei phen ar y gobennydd. Pa les a fyddai dadlau eto â'i mam?