Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie—gobeithio," ebe Siwan, ac edrych ar ei hewythr a'i llygaid yn pefrio.

"Fe gymer dipyn o amser i fynd, cofia—mae'n dair milltir o leia'. Fe fyddwn yn hwyr yn mynd adref..."

"O awn ni ddim heno," ebe Siwan ar ei draws, "ond fe ddwedwn wrth Fred heno am ein disgwyl yfory am ddau o'r gloch."

Felly y bu. Gwridodd a gwelwodd Fred fel o'r blaen wrth addo bod yn barod ar yr amser hwnnw.

"Pam 'r ych chi am fynd mor bell â'r clogwyn," gofynnai Mr. Owen.

"I weld beth sydd yna. Efallai bod yna ogof."

"Yr ochr arall ein hochr ni—y mae'r ogofeydd. Y mae yna ddwy neu dair ohonynt, le buwyd yn smyglo 'slawer dydd."

"A oes dim ogofeydd yr ochr draw?"

"Chlywais i ddim son bod un."

"Os bydd y môr ar drai, efallai y gallwn ni lanio ac edrych o gwmpas. O! 'rwy'n disgwyl fory i ddod inni gael mynd," ebe Siwan yn wyllt, a'r golau yn ei llygaid o hyd.

"Beth sy'n bod, lodes? Beth sy'n dy ddenu di i'r ochr draw?" ebe ei hewythr, ac edrych arni'n graff. "Fe wn i," gwaeddai Gwyn, a ddaethai tuag atynt yng nghwmni'r ddau arall.

"Nawr, Gwyn," rhybuddiai Siwan.

"Ha! Ha!" oedd unig ateb Gwyn wrth ddilyn y lleill i ddarganfod ychwaneg o ryfeddodau'r traeth.

Yr oedd y ddau blentyn o Gaerdydd yn eu hafiaith —Nansi cyn llonned â'i brawd, a Gwyn yn arweinydd iddynt pan gâi gyfle. Gan fod Siwan yn un ar