Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Roeddwn i yn gofalu, mam," ebe Gwyn yn dawel. "Ar ben y banc roeddem ni, ymhell o'r dibyn.".

"Dim mynd allan eto, cofiwch, yn y niwl yma," ebe Mr. Owen.

"A fyddwn ni'n mynd yn y cwch heddiw, 'nhad?" gofynnai Idwal, a Nansi'n gofyn yr un cwestiwn â'i llygaid.

"Na fyddwn, oni chliria'r niwl, 'y mhlant i, ond mae awel fach yn codi. Efallai bydd hi'n glir erbyn hanner dydd," ebe'r tad.

"Os ym ni i fod i fynd, fe gawn fynd," ebe Siwan. "Merch dy dad wyt ti, Siwan," ebe Mr. Owen, ond pan ofynnodd Siwan iddo beth oedd yn ei feddwl, chwerthin a wnaeth, ac edrych ar ei chwaer.

"Wel, af i ddim, niwl neu beidio," ebe Mrs. Owen. 'Mae'n well gen i gael fy nhraed ar y tir. Mae'n well i ti, Nansi, aros gyda mi yn gwmni. Ond dangosodd Nansi yn ddigamsyniol mai mynd a fynnai hi. Cyn hanner dydd symudodd y niwl yn raddol, fel y golofn honno gynt, nes bod yr ochr orllewinol o'r môr yn berffaith glir tra'r oedd yr ochr ddwyreiniol o hyd yn anweledig. Ond ymhell cyn dau o'r gloch cliriodd yr ochr honno hefyd. Aeth y niwl i ben y bryniau a diflannu'n llwyr. Meddyliodd Mr. Owen ei bod yn hollol ddiogel iddynt gadw at eu cyhoeddiad.

Penderfynodd y ddwy wraig aros yn y tŷ. Addawsant ddyfod i ben y cei mewn pryd i'w gweld yn dyfod yn ôl. Aeth y plant i gyd mewn afiaith i'r traeth, a Mr. Owen gyda hwy. Yr oedd Fred Smith â'r Deryn Glas yno yn eu disgwyl, a'i baent newydd yn disgleirio yn yr haul. Prin y medrai Siwan beidio â dangos ei chyffro. Cawsai Gwyn orchymyn pendant i beidio â