Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un gip ar y Lleian Lwyd y bore hwnnw. Ni wyddai neb am hynny ond Siwan. Dim ond am funud y gwelodd hi, ond yr un Lleian Lwyd ag a welsai Siwan ydoedd yn ddiamau. Felly aethai'r ddau ati i drefnu'r daith, a chymryd arnynt wrth y lleill nad oedd ganddynt unrhyw ddiben neilltuol mewn golwg. Yr oedd y ddau wedi penderfynu y mynnent weld pa beth bynnag oedd i'w weld yno, a chael datguddiad ar gyfrinach yr hen Glogwyn Du.

O'r braidd y medrai Siwan sefydlu ei meddwl ar hyfrydwch cysgodol y lôn gul a phrydferthwch yr amrywiaeth o flodau a dyfai ar ei chloddiau. Awyddai am fynd ymlaen, ymlaen, a cheisiai ei gorau guddio'r awydd hwnnw. Bu'n ddiwyd yn helpu Nansi i gasglu tusw mawr o flodau—blodau'r neidr, a blodau'r fadfall, sanau'r frân, sanau'r gwcw, rhedyn tyner, a dail ir y derw ieuainc. Yr oedd glesni'r caeau yn hyfryd i'r llygaid ar ôl glesni arall y môr, ac yr oedd y ddaear yn sych a chras i eistedd ac i ymrolio arni. Ni welent ddim o'r môr, ond clywent ei ru tu ôl iddynt. Mr. Owen yn unig, a Mrs. Sirrell efallai, a wyddai'n iawn pa le yr oeddynt. Rhwng y daith yn y bws ac ar hyd y lôn gul, a oedd dros filltir o hyd, gwnaethant hanner cylch, ac yr oeddynt yn awr tu ôl i'r clogwyn a wynebai ar Gesail y Graig. Os amheuodd Mrs. Sirrell fod rhywbeth yn y gwynt ni ddywedodd air.

Wedi gorffwys ysbaid cododd Mr. Owen a dywedyd: "Mae arna i eisiau tê; 'rwy'n cynnig ein bod i'w gael ar ben y banc yna. Mae golygfa ardderchog oddi yno."

"Eilio," ebe Siwan, a neidio ar ei thraed.

Ni wrthwynebodd neb, oherwydd teimlent y gwyddai Mr. Owen beth oedd orau iddynt.