Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII

TRA bu Nansi a'i mam a'i modryb yn cyd-wylo a chyd-orfoleddu yr oedd pethau rhyfedd yn digwydd yn ogof y Clogwyn Du. Pan lithrodd traed Siwan mor sydyn ar y clogwyn, fe'i cafodd ei hun yn disgyn yn gyflym ar hyd llwybr union, serth, a chyn iddi gael amser i feddwl yr oedd yn ei hyd ar lawr yr ogof. A dyna lais merch yn llenwi'r lle llefain arswydus, a'r ferch ei hun yn rhedeg fel lucheden at enau'r ogof a gweiddi: "They're after me; they're after me!" Yna i ychwanegu at ei braw, ac fel cadarnhad i'w hofnau, canfu'r eneth Mr. Owen yn disgyn ar hyd grisiau claf ei lwybr serth. Un yn dyfod trwy un pen i'r ogof, a'r llall trwy'r pen arall! Er mwyn bod yn siŵr o'i dal hi, yn ddiamau! O, druan fach! Pa beth a wnâi? Rhuthrodd fel un wallgof i ganol y tonnau dig.

Heb ddeall pa beth a ddigwyddai, ond gweld bod bywyd mewn perygl, neidiodd Mr. Owen i mewn ar ei hôl. Ysgrechiodd yr eneth yn waeth nag o'r blaen, a mynd ymhellach i'r môr garw. Gwaith caled a gafodd Mr. Owen i gael gafael arni. Sypyn gwlyb, diymadferth a gariodd ef at enau'r ogof. Yr oedd. Siwan yno mewn syndod brawychus yn ei ddisgwyl.

"O, Nwncwl, dyma beth rhyfedd! 'Dyw hi ddim wedi boddi? Pwy yw hi, ac o ba le y daeth hi i'r fan hyn? 'Rwy'n siŵr ei bod yn byw yn yr ogof. O,