Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nwncwl, Nwncwl! 'Rwy'n gweld yn awr! Hi yw'r Lleian Lwyd!"

Nid oedd gan Mr. Owen amser i ateb. Yr oedd yn rhy brysur yn ceisio dadebru'r eneth o'i llewyg.

Geneth tua'r un oed â Siwan ydoedd. Ffroc fach o liain glas tywyll oedd amdani, fel un a wisg morynion yn y bore. Yr oedd ei gwallt yn ddu fel y frân, a'i llygaid yn las tywyll.

Wedi rhai munudau distaw, pryderus, agorodd hi ei llygaid led y pen, a dechrau gweiddi a cheisio codi i ddianc drachefn. Rhoes Mr. Owen ei law ar ei hysgwydd i'w dal yn ôl, a dywedodd yn dyner:

"What is it, my child? We are here to help you." "You are not going to take me away?" ebe hi'n gyffrous, a hongian ar ei ateb.

"You shall not go anywhere against your will. We are here to help you."

Bodlonodd hyn y ferch. Gorweddodd yn ôl a chau ei llygaid. Edrychai wedi blino. Symudodd Mr. Owen a Siwan ychydig oddi wrthi, a siarad â'i gilydd mewn sibrwd.

"Wel, dyma helbul!" ebe Mr. Owen. "Pwy yw'r eneth yma, a beth a wna hi yma? A phwy sydd yn ei herlid? Beth a wnawn ni â hi? Ni wiw inni ei gadael yma yn y stâd y mae hi ynddo. A dweud y gwir iti, Siwan Siriol, ni bûm i erioed o'r blaen mewn cymaint o benbleth."

"Ac 'rych chithau'n wlyb dyferu, Nwncwl bach, a'r ferch yna 'run fath. 'Rwy'n mynd i weld beth sydd yn yr ogof yma."

Daeth yn ôl ymhen munud neu ddwy a dweud: "Y mae pob math o bethau yna—stôf, a llestri, a