Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heddiw, a minnau yma ers pum wythnos, ac yr oeddwn i'n mynd yn fwy diofal bob dydd, a 'nawr beth ddywed...." a chrynodd Rita drwyddi gan annwyd neu gan ofn.

"Fe af i newid fy nillad," ebe hi, cyn gorffen ei brawddeg. Cododd ar ei thraed; edrychodd i fyw llygaid Siwan, a dywedodd:

'Rwy'n eich credu chi. Mae gen i ffydd ynoch chi. Fe fedraf ddweud fy stori wrthych. O! y mae'n rhaid imi ei dweud wrth rywun. Y mae'n rhaid imi gael rhyw help. 'Rwy' wedi blino. 'Rwy bron â mynd yn wallgof. Fe ddof yn ôl atoch ymhen pum munud."

Aeth Siwan gam neu ddau ar hyd y traeth cul i edrych a welai ei hewythr yn dyfod yn ôl. Fe'i gwelodd ar ben un o'r creigiau yn siarad â'r ddau fachgen. Pan droes yn ei hôl fe welodd gwch bach unig draw ar wyneb y môr aflonydd. Sut nas gwelsai o'r blaen? Edrychai fel petai'n anelu at yr ogof. Daeth yn nes. Y Deryn Glas ydoedd! Y Deryn Glas, a dim ond Fred ynddo, yn ymladd yn galed er mwyn cadw ei lestr bychan ar wyneb y môr cynddeiriog.