ar Siwan; yna, heb wên ar ei wyneb eto, dywedodd wrth Rita:
"Beth yw ystyr hyn?"
"Nid arnaf i oedd y bai, Fred," ebe Rita yn llawer tawelach nag o'r blaen. "Daeth Miss... y. Siwan i lawr yn sydyn drwy'r top, a rhedais innau allan mewn ofn, ac wrth ddrws yr ogof yr oedd y dyn. Meddyliais eu bod ar fy ôl, a rhedais i'r môr. Yr oeddwn am fy moddi fy hun. Ond i'n helpu ni y daethant yma, Fred, a rhaid iti ddweud y cwbwl wrthynt. Rhaid, Fred, rhaid iti ddweud y cwbwl."
"Ie, hynny a fyddai orau, 'mhlant i," meddai Mr. Owen, a ddaethai yno erbyn hyn yn ei ddillad hanner sych. Edrychodd yn syn iawn ar Fred, a dywedyd:
"Beth ddaeth â chwi yma? Ai digwydd dod dros y môr garw yma a wnaethoch chi, neu a wyddoch chi rywbeth am y ferch yma?"
"Gwn, syr. Fy chwaer yw hi," ebe Fred.
"Eich chwaer? Beth mae eich chwaer yn ei wneud mewn lle fel hwn?"
Aeth Rita a sefyll yn ymyl Fred, a chydio yn ei law, ac edrychodd dau bar o lygaid glas, trist, yn syn ar Mr. Owen. Nid oedd mwyach eisiau amau nad brawd a chwaer oeddynt. Yr oeddynt mor debyg i'w gilydd—dau blentyn hoff rhyw dad a mam o rywle.
"Dywed y cwbwl, Fred," ebe Rita'n ddistaw.
Edrychodd Fred yn fyfyrgar tua'r llawr am ychydig ac yna tynnodd o'i fynwes ddarn o bapur newydd—un o bapurau Cymru—a dangos paragraff ynddo i Mr. Owen a dywedyd:
"Hwn yw'r achos bod Rita'n mynnu aros yn yr ogof, syr."