Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i beth, trwy ddilyn y cerrig milltir, fe ddeuais yn agos at Fin Iwerydd. Fe welais y môr. Yr oedd yn dechrau tywyllu eto. Rhaid ei bod yn tynnu at ddeg o'r gloch pan ddeuthum at lôn y Faenol. Fe welais yr enw 'Y Faenol' ar yr iet. Arhosais dipyn tu mewn i'r iet i weld a welwn Fred. Yr oedd arnaf ofn mynd at y tŷ—ofn cŵn ac ofn popeth. Fe gysgais yno eto, a sŵn traed Fred a'm dihunodd. O! dyna falch oeddwn i'w weld."

Yna aeth Fred ymlaen â'r stori:

"Ni wyddwn i pa beth i'w wneud. Euthum â hi gyda mi yn y cwch. Nid oedd neb arall ar y traeth. Fe wyddwn am bob man ar y glannau yma. Fe aethom i'r ogof yma er mwyn cael amser i feddwl a siarad. Yr oedd gennyf barsel bychan o fwyd. Wedi i Rita fwyta ychydig ohono, a chyn inni gael amser i drefnu dim fe syrthiodd i gysgu. Yr oedd wedi blino'n lân. Fe'i dodais mor esmwyth ag y gallwn, a chyn hir fe gysgais innau. Yr oedd yn chwech o'r gloch pan ddihunais i. Nid oedd Rita am fentro i'r pentref gyda mi. Yr oedd wedi mynd i ofni pawb a phopeth. Yr oedd yn well ganddi aros ei hunan yn yr ogof er bod arni ofn yma hefyd, yn enwedig yn y nos.'

Crynodd Rita wrth atgofio'r nosau hynny.

"Yna, un dydd tuag wythnos wedi iddi ddod yma, fe ddigwyddais i weld y paragraff yna mewn papur a adawodd rhywun ar ei ôl yn y cwch. Wedi iddi weld hwnnw ni chymerai lawer am adael yr ogof."

"Ble 'r oedd eich cartref chwi?" gofynnai Mr. Owen. "Mewn pentref bach ar lan Môr Hafren—pentref bach tebyg i Fin Iwerydd. Pysgotwr oedd nhad."