Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwch? Edrychai fel petai'n cyfeirio at y môr mawr tu allan i'r bae. Yr oedd dyn a benyw a rhywun arall ynddo heblaw'r cychwr. Ie, Fred oedd y cychwr le, Siwan a Nwncwl oedd dau o'r tri arall, gan nad pwy oedd y trydydd. Yr oedd y cwch yn dechrau troi ei gyfeiriad. Galwasant ar y ddwy fam a Nansi, a bu pob un o'r tair yn edrych yn ei thro. Mrs. Sirrell oedd yr olaf i edrych..

"O," ebe hi, mewn hanner gwaedd o syndod neu fraw, a rhoi'r gwydrau o'i llaw.

"Beth sy'n bod?" gofynnai Mrs. Owen.

"O! dim," ebe Mrs. Sirrell, "mae'r hen wydrau yma mor drwm. Ewch â Nansi i'r tŷ, wir, i orffwys. Mae'n edrych wedi blino."

Wedi cael ganddynt fynd, galwodd ar Gwyn ati, a dywedyd wrtho mewn sibrwd:

"A wyt ti'n cofio Siwan yn dweud ei bod yn gweld Lleian Lwyd bob bore, a ninnau'n chwerthin am ei phen? Wel, yr oedd Siwan yn iawn. Y maent wedi dal y Lleian, os lleian ydyw. Y mae yn y cwch yn awr gyda Nwncwl a Siwan. Edrych!"

"O, mam, fe'i gwela hi 'nawr yn eglur," ebe Gwyn yn gyffrous. "Dillad llwyd sydd amdani, a'r peth yna ar ei phen. Grey Nun! Pam maent yn dod â hi yma?" "Dyna a garwn innau ei wybod," ebe Mrs. Sirrell. "A gaf i ddweud wrth lleill?"

"Na, cer i aros gyda Nansi am dipyn, a dywed wrth dy fodryb am ddod yma. Paid â dweud dim wrth Nansi rhag iddi gael ofn eto."

Gwaeddodd ar Idwal, a oedd dipyn yn is i lawr, a'i law dros ei lygaid yn edrych yn ddyfal tua'r môr: "Idwal, cerwch gyda Gwyn i aros gyda Nansi."