Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD I

TEITHIO'N gyflym mewn car modur ar hwyr o Fai yr oedd Siwan a Gwyn Sirrell pan gawsant eu golwg cyntaf ar Fin Iwerydd. Gwelsant glwstwr o bennau tai, megis mewn hafn a hanner guddid oddi wrthynt gan godiad tir; gwelsant glochdy eglwys o ganol coed, ac ar lethr y clogwyn pellaf restr o dai gwynion yn wynebu'r môr. Ar y tai hyn y sefydlasant eu golwg, oherwydd dywedodd eu mam wrthynt mai tu hwnt iddynt hwy, ar fin bae bach arall, yr oedd y tŷ a oedd i fod yn gartref iddynt.

Collasant olwg ar y rhes tai wrth ddyfod i mewn i'r pentref gyda glan y môr, ond dacw hwy eto, a'u ffenestri fel llygaid agored yn syllu mewn syndod parhaus ar ryfeddod môr a mynydd o'u blaen, ac arnynt hwythau wrth eu croesawu am y tro cyntaf.

Y tro cyntaf ydoedd i Siwan a Gwyn, ond dyfod yn ôl i'w hen gartref a wnâi eu mam. Efallai i Mrs. Sirrell ganfod mwy na syndod yn nhrem y llygaid a edrychasai ar gymaint o bethau erioed. Gorfu iddi sychu ei llygaid ei hun yn frysiog.

Cymraes oedd Mrs. Sirrell, a Gwyddel oedd ei gŵr. Deuai Gwyddyl yn fynych gynt mewn llongau masnach i Fin Iwerydd. Arhosodd rhai ohonynt yn y lle, ŵyr i un o'r rhai hynny oedd Mr. Sirrell. Er iddo ddysgu siarad Cymraeg yn weddol yr oedd yn hawdd gwybod nad Cymro ydoedd. Dyn goleubryd, tal, ydoedd, bywiog ei wedd a ffraeth ei dafod. Tebyg