Tudalen:Y Lleian Lwyd.pdf/8

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo oedd Siwan. Yr oedd Gwyn yn debycach i'w fam, yn dawel ei ffordd fel hi, a heb gymaint o awch, at fywyd a'i chwaer.

Dringodd Mr. Sirrell yn fuan i fod yn gapten. Enillai gyflog fawr, ond yn fynych iawn awyddai am ragor o arian, ac wrth geisio cael mwy collodd lawer o'r hyn a oedd ganddo. Pan fu farw ni adawodd ond ychydig gannoedd o bunnau ar ei ôl.

Yn ei gofid daeth ar Mrs. Sirrell awydd dychwelyd i'w hen ardal at ei phobl ei hun. Nid oedd ym Min Iwerydd berthynas agos iddi bellach, ond yr oedd yno lawer a'i hadwaenai gynt. Byddai'n rhatach i fyw yno nag ym Mryste, a gallai gadw ymwelwyr yn yr haf i ychwanegu at yr ychydig arian a oedd ganddi. Cefnogwyd ei bwriad yn eiddgar gan Siwan a Gwyn. Ni welsent Gymru erioed er clywed llawer o sôn amdani. Pan welsant eu cartref newydd yn llechu yng nghysgod y graig, a'r môr bron yn llyfu ei odre, daeth rhyw wefr i galonnau'r ddau, a gwyddent rywfodd eu dyfod i'r lle iawn i fyw.

Daethent bob cam o Fryste y diwrnod hwnnw. Yno yr aethai y morwr ieuanc a'i wraig ar eu priodas ddeunaw mlynedd yn ôl. Yno y ganed Siwan a Gwyn. Yr oedd Siwan yn un ar bymtheg oed a Gwyn yn dair ar ddeg. Ychydig o'r môr a welsent ym Mryste er ei fod yn ddigon agos atynt. Nid "byw ar lan y môr" a oedd byw yno: ond byw ynghanol berw tref fawr ac adeiladau uchel yn cuddio pob gogoniant oddi wrthynt. Ond yma, dyma hwy mewn gwirionedd ar fin Iwerydd, a'i ehangder gogoneddus yn agored o'u blaen. Yr oedd tua phum llath o dir gwastad o flaen