Tudalen:Y Mabinogion Cymreig-sef, Chwedlau rhamantus yr hen Gymry.pdf/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiweddar fel mai ofer myned i'r drafferth o'i haralleirio fel y lleill. Lady Guest a'i cynullodd yn chwedl o draddodiadau a gafodd hi yn y Myv. Arch., &c.; ac y mae lle cryf i ofni nad yw llawer ohoni nemawr hynach na Iolo Morganwg.

Fel y gwelir wrth y nodiadau o flaen rhai o'r rhamantau hyn, yr oeddynt yn adnabyddus yn Lloegr, Ffrainc, Almaen, Norway, Sweden, ac hyd yn nod Iceland. Treulia Lady Guest gryn lawer o'i Rhagymadrodd i ddangos y llwybr yr aethant i'r gwledydd hyny. Dywed hi fod y Germaniaid, y rhai a'u chwalodd yn Ngogledd Ewrob, wedi eu cael o Ffrainc; fod Robert Wace, brodor o Jersey, wedi cyhoeddi ei Anglo-Norman Romance o'r Brutiau yn 1155; a bod Wace wedi cael llawer o'i ddefnyddiau o Historia Britonum Sieffre o Fynwy. Dywed hefyd fod gan offeiriad Seisnig o'r enw Layamon, a breswyliai yn mlaen dyffryn yr Hafren, a'r hwn a ysgrifenodd hanes Prydeinig, gryn law yn eu trosglwyddiad. Dylid cofio, pa fodd bynag, nad oes gan Seiffre yn ei waith ond ychydig o'r Mabinogion; a bod Layamon yn cydnabod mai ei awdurdodau ef oeddynt y Sais Bede, y Lladinwr Albin, a'r Ffrancwr Wace. Ai nid mwy naturiol credu eu bod wedi eu cludo, fel chwedl yn gyffredin, ar dafodau milwyr y gwahanol genedloedd, o'r naill wlad i'r llall, yn enwedig pan gofiom fod milwyr yr oesau hyny yn aml yn ymladd blith draphlith tan yr un faner, megys yn Rhyfeloedd y Groes, &c.?

Y mae yn hen ddywediad yn mysg llenorion mai Gwaith y Cynfeirdd (Aneuryn, Taliesin, a Llywarch Hen) mewn Barddoniaeth, a'r Mabinogion mewn Rhyddiaeth, ydyw dau brif addurn llenyddiaeth henafol y Cymry. Gallem lanw haner tu dalen âg enwau awduron clodfawr sydd yn rhoddi y ganmoliaeth uchaf iddynt. Oddiyma y cafodd Tennyson ddefnyddiau ei Idylls of the King; ac y mae y bardd llawryfol wedi dilyn y gwreiddiol mor gaeth a manwl mewn rhai manau, fel bydd perygl i rai o feirniaid craff y dyfodol ei gyhuddo o lenladrad. Yn Geraint ab Erbin yn enwedig dilyna'r bardd Seisnig yr hen fabinogi bron air am air. Dylem deimlo yn ddiolchgar, pa fodd bynag, fod genym gynyrchion llenyddol gwerth eu lladrata.

Am yr aralleiriad i Gymraeg yr oes hon, ymdrechasom i'w wneud yn eglur a darllenadwy, ac ar yr un pryd ymyraeth cyn lleied ag oedd modd â'r geiriau a'r dullweddau prydferth cynhenid. Gallasai llawer un wneud hyn o orchwyl yn well, a llawer un ei wneud yn waeth, ond gwnaed ef fel y mae am nas gallem ni ei wneud yn well. Gan gyflwyno ein diolchgarwch mwyaf diffuant i bawb a'n cynorthwyodd i ddodi rhamantau gogoneddus yr Hen Gymry athrylithfawr yn nwylaw a chylch dealltwriaeth eu plant yn yr oes hon, y gorphwys

Yr eiddoch yn gywir,
Y CYHOEDDWR.
LIVERPOOL, Ebrill.., 1881.