pob rhyw fath o fwystfilod peryglus, a thros afonydd a chorsydd, a thrwy bentrefi llwythau dieithr a drwgdybus, na wyddai ef air o'u hiaith. Ond ymlaen yr aeth, heb orffwys a heb ymborth. Cymerodd iddo saith niwrnod a saith noson o deithio caled, ac yna, er llawenydd i bawb, cyrhaeddodd i'w bentref yn ôl.
Wedi trin archollion y claf, aeth y cenhadwr at y bachgen gan ddatgan ei edmygedd o'i ysbryd gwrol: "Hoffwn," ebe'r cenhadwr, "gyflwyno rhodd iti am dy waith." Cynhyrfodd y gŵr ieuanc drwyddo. "Na! na! athro," meddai yn gadarn; "ni chymeraf ddim gennych chwi na neb arall." "Wel, beth a'th gymhellodd i wneud cymaint dros ddyn nad ydyw yn un o dy deulu?" Ar ôl peth distawrwydd atebodd y bachgen: "Athro, y dyn yna saethodd ac a laddodd fy mrawd. Chwi wyddoch nad ydyw yn Gristion, a meddyliais, pe gwnawn i hyn drosto, y gallwn, efallai, ei ennill ef at Iesu Grist."