"Duw sy'n Bopeth i Bawb"
MEDD y Mahometaniaid gant namyn un o enwau ar Dduw (Allah), a disgwylir i bob Mahometan eu hadrodd pan weddia, gan eu cyfrif bob yn un ac un ar ei rês paderau (rosary) a wisgir yn gyffredin o amgylch y gwddf. Dichon na fedrai llawer o'n darllenwyr, hen nac ieuanc, adrodd cant namyn un o enwau a geir yn y Beibl ar Dduw. Gwyddom alw Duw yn fynych wrth enwau megis Tŵr, Craig, Tarian,-pob un ohonynt yn awgrymu bod Duw yn amddiffyn i'w bobl. Rhoddwyd iddo enw arall gan un o lwythau Affrica,-Duw y Waywffon (the Spear-God).
Mewn rhan o'r Sudan, y wlad dywyll honno yn Affrica, ceir llwyth lluosog a elwir y Dinka, pobl wrol, yn meddu ar lawer o hynodion, a'u prif arf i ymosod ac i amddiffyn ydyw'r waywffon. Gallant daro gyda hi hyd at drwch y blewyn. Un noswaith cyrhaeddodd cenhadwr, yn flin gan ei daith, i un o bentrefi y Dinka, rhyw ugain milltir oddi wrth lan afon Nil. Yn ebrwydd wedi