Swynion Mahometanaidd
YM mhob gwlad Fahometanaidd gwneir defnydd helaeth o swynion (charms) i amddiffyn y "ffyddloniaid" rhag dylanwad y llygad mall (the evil eye), a ofnir gymaint. Gwisgir swynion hefyd fel moddion i wella afiechyd a phoen; gwelir hwy wedi eu rhwymo ar y fraich neu'r goes, neu rhyw ran arall o'r corff. Cred y Mahometan yn gryf yn effeithiolrwydd magical cures, a rhoddwn yma ychydig enghreifftiau o'r math ar swynion a arferir ganddynt.
Edrych y Mahometan ar bopeth ysgrifenedig gyda pharch, ac o bydd enw Duw neu adnod o'r Koran (y Beibl Mahometanaidd) yn ysgrifenedig neu'n argraffedig ar ddarn o bapur, golygir ef yn beth cysegredig. Nid yw llawer o'r swynion amgen darnau o bapurau gydag adnodau o'r Koran yn ysgrifenedig arnynt. Rhennir y Koran yn benodau (Suras). Credir bod Sura 77, "Y Rhai Anfonedig," o'i hysgrifennu ar ddarn o bapur a'i gwisgo ar y corff, yn feddyginiaeth