Tudalen:Y Pigion.djvu/4

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

DDARLLENYDD,—
Cafwyd cryn lawer o helynt i gasglu y darnau sydd yn y PIGION, ac y maent oll yn wir deilwng o'u cadw ar glawr. Collwyd llawer darn prydferth am na chafodd ei argraffu, ac y mae hyny yn drueni.

Ysgrifenodd amryw o'r beirdd atom-i ddweud eu bod yn falch o'r cynllun, ac y buasent yn ein helpi, a chadwasant eu gair-diolch calon iddynt.

Gan i ni gael y fath doraeth o gyfansoddiadau— digon i wneud dau lyfr swllt, caiff y PIGION hwn fod yn RHAN I, a chyhoeddwn RHAN II can gynted ag y bydd yn gyfleus genym.

Hefyd, y mae genym ddwy Nofel chwaethus, hollol newydd, gan awdwyr Cymreig galluog; gwna pob un o honynt lyfr swllt, ac os cawn ar ddeall y bydd i ni dderbyn cefnogaeth tebyg ag a gawsom yn bresenol, rhoddwn yr un fantais eto, sef PIGION II, y Nofelau, yn nghyd a llyfrau Cymreig a Seisnig ereill, am. 6d. yr un.

Y ffordd y cawn ar ddeall ddarfod i ni roddi boddlonrwydd yn bresenol ydyw, i chwi ddanfon gair atom ar gerdyn yn dweud eich bod yn barod, ac yn awyddus i weled llyfrau swllt yn cael eu rhoi am chwe'cheiniog yr un eto.

Ydym,

Y CYHOEDDWYR.