Tudalen:Y Pigion.djvu/5

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PIGION.

FY HEN LAWFFON.

Gan Pabellwyson, Cwmbwrla.

A glywsoch chwi fod genyf fi
Hen lawffon er ys blwyddi,—
Sydd wedi 'nghynal lawer gwaith
Pan ar fy nhaith bron methu?
Er fod ei thafod hi yn fud,
Heb fedru siarad geiriau,
Parhau yn ffyddlon mae o hyd
I mi drwy'r holl flynyddau.

'Rwyf fi dros haner-canmlwydd oed,
Mae hi yn llawer rhagor,
Ac ni fu arni eisiau 'rioed
Un dafn o foddion Doctor;
Mae yn y boreu gyda'r wawr,—
Neu haner nos, yn barod
I gychwyn gyda mi bob awr,
Ar hindda, neu ar gawod.

Ond dyna sydd yn rhyfedd im'
Nad ydyw byth yn achwyn
Ei bod hi wedi colli dim
O'i nerth oddiar y cychwyn;
Mae'n ieuanc, er ei bod yn hen,
Heb frychyn yn ei hanes;
Pob dydd a nos fel ar ei gwên,
Heb frad o fewn ei mynwes.

Mae yn Ddirwestreg drwy ei hoes,
Heb gyffwrdd a dyferyn
O'r hyn sy'n achos cweryl croes―
A llawer loes anhydyn;