Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/21

Gwirwyd y dudalen hon

unrhyw ddiwrnod—onid elai yntau yno? A dyna y ddwy Miss Davies, Rosemary Cottage, y rhai nad oedd raid iddynt byth ofni orfod rhoddi cyfrif am waethio yn rhy galed, a'r rhai pe gwyddai Mr. Evans yr hyn a wn i, sef eu bod ryw dro, er's talwm, wedi yfed rhyngddynt hanner potel o'r Quinine Bitters, na phetrusai wario can ' punt i gael eu darlun ar ei advertisement, gan mor gwmpasog a llyfndew ydynt! Os oes rhywrai yn ammheu am y rhai olaf, gadewch iddynt ofyn i'r ci bach gwyn, blewog, sydd yn Rosemary Cottage, ac fe ddywed ef wrthynt, a'i wallt yn ei lygaid, os nad ei ddagrau, fod yn gâs ganddo feddwl am dymor yr haf, pryd y gadewir ef at drugaredd y for wyn, heb neb i'w nyrsio tra bydd ei ddwy feistres yn Llandrindod. Meddyliais am lawer eraill cyffelyb na fyddai o un dyben son am danynt yn y fan hon, tystiolaeth unfrydol y rhai, wedi iddynt ddychwelyd gartref, a fyddai " eu bod wedi derbyn lles dirfawr ac wedi cael ail lease ar eu bywyd."

Erbyn hyn yr oeddwn ar delerau da â mi fy hun, a fy myfyrdodau yn hyfryd. Goleuais fy mhibell, ac oherwydd nad oedd neb ond mi fy hun yn y smoking compartment, ffurfiais bont rhwng y ddwy fainc gyda fy nghoesau, ac arni y lledais fy mhapyr newydd, ond ni ddarllenais ddim ohono, eto tybiwn, os dygwyddai i mi gael cwmni, mai yr argraff a wnâi yr olwg arnaf a fyddai fy mod wedi ei ddarllen oll. Yr wyf yn meddwl ei bod yn ffaith mai ychydig o'r rhai, cyffelyb i mi fy hun, nad ânt oddicartref ond rhyw unwaith