Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

man, sychodd y ferch ei llygaid, ac wedi ocheneidio ddwywaith neu dair ychwanegodd yn gyflym—

"Rown i'n estron, fel gwedes, ac ynte nemor well. Thynes i mo nillad am thefnos gron, ond tendo, tendo, arno e ddid a nos. Ond dod hyni ddim, waith dod arna i gwsg na blinder, a fe odd yn dodde'n giwt na choeliech, a digon gwâth i un fod ar i bûs i sychu'r chwŷs oddar i ben. Fe wede rhyw beth wrthw i o'r funid gynta na chiwrie, a fe fu fisodd lywer yn dihoeni i'r dim ar weli, a nine'n dlowd. Rodd gen i, bid siŵr, rou punodd wedi'u safo at ddodren ti; ond toc yr oethon i gael chware teg iddo am ddim dos dim i gael o gartre. Fe fu, serch hyni, rou cymdogon yn ffeind tu hwnt, nes iddynt flino. Mae pawb yn blino rhoi os na fydd cariad fe ddala hwnnw byth. Fe nes y ngore ac eitha mhywer idde, a rodd canmil mwy'n y nghalon. Ond rodd ei amser wedi dod i ben, a Duw a fyne i hyni fod, a mi glous y mem yn gweud—lle llysio Duw na thycie ffisig na phlaster, a phan fo'r Ne yn galw y rhaid i ddyn farw. Mi wn yn serten fod e heddi'n well ei le, waith rodd e'n fachgen piwr, a fe wede gant o dnode o'i go, a'i ofid mwya odd ei ofan fod e wedi ngharu i yn fwy na'i Brynwr. Rodd arno whant cael trengu er's tro, waith rodd e'n rhy wan i ddal ei wendid, adodd prin ei lun mewn gweli. Rodd e'n pôni hefyd pan ffeindiodd fod pob penny wedi myn'd, a'n bod ni'n biw ar wyllys da'n cymdogon. Mi gedwes hyn oddi wrtho e cyd y medrwn, ond ffeindo nâth. A phan