Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barchu wedi iddo fyned yn dlawd, yna eglur yw nad fel cyfoethog y perchir ef. Mae lle i feddwl fod gal wadau dyn yn mwyhâu ac yn dwyshâu yn gyfatebol i'w gyflenwadau, ac fod cyfartaledd neu ratio ei hapusrwydd yn lled debyg ymhob amgylchiad. Nid oes un rheswm, am a wn i, dros feddwl fod hapusrwydd y dyn sydd yn cadw ceffyl yn fwy nac yn uwch nag eiddo y dyn sydd yn cadw mochyn, ac i ni gymeryd i ystyriaeth yr holl brofedigaethau sydd ynglŷn â'r blaenaf. Pa fodd bynag, y mae yn policy doeth yn y dyn tlawd i edrych ar ei sefyllfa fel y sefyllfa oreu, a bod yn ddiolchgar am dani, yn enwedig os na bydd ganddo obaith am fod yn gyfoethog. Os oes rhyw swyn mewn hynafiaeth a lliosogrwydd cymdeithion, y mae gan y dyn tlawd yn anad neb le i ymfalchïo. Ymffrostia y Free Masons fod eu brawdoliaeth càn hyned a dyddiau Solomon, ond gall y dyn tlawd ol rhain ei achau càn belled a Job, a dweyd y lleiaf. Mae gan gymdeithas y tlodion gyfrinfa ymhob pentref a chymydogaeth trwy y byd adnabyddus, ac y mae manteision ei haelodau yn llawer. Nid oes byth berygl i'r llywodraeth fyned i chwilio i lyfrau ac amgylchiadau y dyn tlawd, ac nid ydyw byth dan demtasiwn i ddweyd celwydd wrth roddi cyfrif o'i enillion blynyddol. Os gŵr ieuanc tlawd a chall ydych, arbedwch y drafferth o fyned i'ch priodi, a'r helbul ar ol hyny. Os merch ieuanc dlawd ydych, ac os nad ydych yn nodedig o brydferth, byddwch yn lled debyg o gael llonydd yn y byd drwg presennol—ni aflonydda neb ar