Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyafrif o bobl fod llywodraeth anuniongyrchol yn beth da cyn belled ag y mae'n mynd. I gael llwyddiant terfynol, fodd bynnag, y mae'n rhaid iddi wrth ryw drefniadau i'w datblygu ymhellach ac i sicrhau fod brodorion wedi cael addysg yn cydweithio o fewn cyfundrefn y llwyth. Y mae llywodraeth anuniongyrchol wedi ei hestyn i rannau eraill o'n hymerodraeth yn Affrica gyda chryn lwyddiant-fel dull o weinyddiaeth. Ond na foed inni anghofio y bydd ein hymerodraeth, yn y pen draw, yn ei chyfiawnhau ei hun neu beidio i'r graddau y tuedda, yn wirioneddol a chyson, i droi'r trefedigaethau yn gymdeithasau rhydd o ddynion rhydd hynny yw, i'r graddau y sicrha ryddid economaidd a diwylliannol i'r cylchoedd hynny sydd yn alluog i'w ddefnyddio, ac y datblyga'r gallu hwnnw yn y rheini nad yw eto wedi cyrraedd ei lawn dwf ynddynt, drwy eu hannog a rhoi cyfle iddynt i ymarfer â'u llywodraethu eu hunain.

III. GWEINYDDIAETH YN AFFRICA DROFANNOL

Y mae'r modd y cymhwysir llywodraeth anuniongyrchol i rai o'n trefedigaethau yn Affrica Drofannol yn arwydd inni, yn y cylch politicaidd, o fwriad Llywodraeth Prydain i weithredu fel ymddiriedolwyr dros lwydd a lles yr ymerodraeth drefedigaethol. Ond nid dyna cin hunig gyfrifoldeb. Y mae gennym, a defnyddio ymadrodd yr Arglwydd Lugard, Fandad Dwbl-yr ydym yn gyfrifol, nid yn unig i'r llwythau brodorol am eu lles a'u cysur, ond hefyd i wareiddiad am ddatblygu'n iawn adnoddau tiriogaethau'r brodorion. Gwelir holl gnewyllyn y broblem y ceisia Llyw-