rhai ardaloedd ymddangosai fod y clwyf gwenerol ar gynnydd; a dodai afiechydon yr ysgyfaint dreth drom ar fywydau. Teimlir aflonyddwch cyffelyb wrth ystyried ffigurau marwolaeth plant ar enedigaeth yn holl drefedig- aethau trofannol Prydain. Mewn ychydig o fannau breint- iedig yn unig y ceir ffigur mor isel â 150 marwolaeth o bob 1,000 genedigaeth; am Nigeria yn ei chrynswth dywedir mai'r ffigur yw 300, ac am Kenya 400, er i'r ffigur cyfatebol am Brydain Fawr fod mor isel â 59. Gwnacthpwyd llawer o waith gan y Llywodraeth i sefydlu ysbytai a fferyllfeydd lle y gall y brodorion dderbyn gofal a thriniaeth feddygol; ond y mae'r arian y gallwyd ei sbario yn y gorffennol wedi bod yn hollol annigonol ar gyfer y gwaith mawr y mae'n rhaid ci gyflawni. Bydd eisiau'r arian a ddyfarnwyd yn ddiweddar gan y Llywodraeth, i ehangu'r gwasanaethau meddygol fel y cyfryw, i hyfforddi, mewn canolfannau arbennig, gan- noedd o gynorthwywyr meddygol o blith y brodorion, ac i ddarparu'r gwasanaethau cynorthwyol costus sy'n dilyn hynny, megis codi tai, torri ffosydd a sicrhau cyflenwad o ddŵr.
Y mae amgylchiadau byw cyntefig yn gwneuthur y bobl yn dueddol i ddioddef gan y llu clefydon sy'n gyffredin mewn gwledydd trofannol; ond nid oes yr un achos am iechyd gwael brodorion Affrica sy'n bwysicach na diffyg bwyd maethlon. Prif angen yr Affricanwr, yn ôl un ysgrifennwr, yw dau bryd sylweddol o fwyd y dydd a dau bar o esgidiau y flwyddyn. Rhoddai'r bwyd iddo gryfder i wrthsefyll yr heintiau, a rhoddai'r esgidiau iddo amddiffyn cyflawn rhag pla'r llyngyr sydd yn andwyo ei gylla ac yn sugno ei fywyd. Ac y mae digon o dystiolaeth fod ei ymborth ymhell o fod yn un addas a digonol. Edrydd y Cyfarwydd-