waith gan y gwahaniaeth mawr sydd rhyngddynt: ar y naill law dyma'r Ewropead, a'i hymddiried yng ngwerth anturiaeth yr unigolyn, ac yn defnyddio holl offer a chelfi'r diwydiant modern; ac ar y llaw arall dyna amrywiaeth mawr. o bobloedd brodorol, y mwyafrif ohonynt o hyd yn unedau ar ffurf y llwyth, a'u bywyd ynghlwm wrth y tir, boed hynny wrth ei droi a'i drin neu ynteu wrth bori eu hanifeiliaid arno. Beth bynnag, y mae'r ddwy gyfundrefn economaidd yn gorgyffwrdd â'i gilydd yn y ffaith fod ar y brodor eisiau'r Ewropead fel marchnad i'r cnydau sydd ganddo i'w hallforio, ac ar yr Ewropead yntau eisiau llafur y brodor yn ei fwyngloddiau a'i blanhigfeydd.
Y Llywodraeth ei hun a bwysodd ar y brodorion dyfu cnydau i'w hallforio. Y mae gwasanaethau'r weinyddiaeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth eu darpar, a'r gwasanaethau ychwanegol mewn iechyd ac addysg y dylai eu darpar, yn costio arian: rhaid codi arian trwy drethi: ac y mae hyn, o safbwynt y brodor sy'n talu'r trethi, yn galw am gael gweddill yn y cynnyrch dros ben yr hyn a dreulir ganddo. ac am gael marchnad i'r gweddill hwnnw. Yn y gorffennol buasai pentref yn Affrica Drofannol yn fodlon ar gynhyrchu hynny o nwyddau yn unig a fai'n ddigon i'w drigolion ef ei hun. Ac felly, yr oedd yn rhaid i'r Llywodraeth annog allforio nwyddau, yn fwynau neu'n gynnyrch amaethyddol, ac er mwyn gallu trosglwyddo'r nwyddau hyn i farchnad y byd, yr oedd yn rhaid cael gwell cyfryngau a chyfleusterau i'w cludo yno. Adeiladwyd rheilffyrdd a phorthladdoedd; a chan fynd gam ymhellach, sefydlodd y Llywodraeth ymhob un o'r trefedigaethau hyn Adran Amaethyddol sy'n gwneuthur arbrofion gyda chnydau economaidd ac yn cyhoeddi propaganda dros eu codi a'u gwella. Talwyd sylw