neu blanhigfa, gyda'u dillad amryliw, eu cyllyll, eu horganau ceg, a'u plancedi, yn gymhelliad i bentrefwyr eraill fynd i weithio am arian. A bydd gwŷr ieuainc, wedi blino ar gyfyngiadau bywyd eu pentref, yn chwilio am waith i ddiwallu eu dyhead am antur ac annibyniaeth, a hefyd i ennill digon o gyfoeth i dalu gwaddol am eu gwragedd neu i gael dillad i'w gwisgo eu hunain a'u teuluoedd. Ar yr un pryd fe ddylid cofio mai prif ofal a gorchwyl y rhan fwyaf o boblogaeth trefedigaethau Affrica yw cynhyrchu digon i'w cynnal eu hunain; y mae rhan arall lawer llai sy'n ymroi i gynhyrchu nwyddau ar gyfer y farchnad; ac ychydig iawn sydd ar hyn o bryd yn dibynnu'n llwyr ar weithio am hur. Ond y mae denu hyd yn oed yr ychydig hyn o blith y brodorion i weithio y tu allan i'w hardaloedd hwy eu hunain yn cael effaith digon difrifol i achosi pryder mawr i'r rhai sy'n astudio sefyllfa pethau yn Affrica.
Y mae cael llafurwyr yn symud o'r naill fan i'r llall o bryd i'w gilydd yn beth a ddigwydd bron ymhob tiriogaeth yn Affrica, ond ni theimlir canlyniadau hynny i'r un graddau ymhobman. Ceir symud i'r ffermydd ac i'r planhigfeydd cotwm, coffi, a sisal yn Affrica Ddwyreiniol, ond y mae'r man y gweithir ynddo yn aml iawn yng nghymdogaeth y rhanbarthau brodorol y daw'r llafurwyr ohonynt, ac erys y llafurwr yn ei gysylltiad â'i bobl ei hun; beth bynnag, anaml iawn y mae gorchwylion amaethyddol yn golygu cymaint o newid amgylchfyd ag a wna gwaith diwydiannol. Gweithio yn y mwyngloddiau, ac yn neilltuol yn y rheini sy'n tynnu eu gweithwyr o bellter ac yn eu rhwymo wrth gytundebau a'u ceidw o gartref am ysbeidiau hir, sy'n gyfrifol am y math hwnnw o symud llafurwyr a gaiff yr effeithiau mwyaf arwyddocaol.