y minteioedd niferus o Seineaid a ymsefydlodd ym Malaya; y frwydr i ddileu heintiau ac ofergoclion ymhlith brodorion ynysoedd y Pasiffic; yr anawsterau a oedd yn gynhenid yn yr ymgais gyntaf at hunan—lywodraeth yn Ceylon; ein perthynas â Seineaid a Japaniaid fel canlyniad i'n meddiant o Hong Kong; pwysigrwydd strategol caerau'r llynges, megis Gibraltar a Malta, ychwanegir yn ddirfawr at eu pwysigrwydd gan y rhyfel presennol—heb sôn am y ddyletswydd drom o geisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr Iddew a'r Arab ym Mhalesteina. Y mae'r holl gwestiynau yn haeddu'r sylw mwyaf gofalus; ond wrth ddewis problemau i'w hystyried yn fanylach yn y pamffled hwn, nid yn fympwyol hollol y gweithredwyd. Ymdriniwyd â chyflwr pethau yn Affrica Drofannol nid yn unig am fod yn agos i 80% (yn ôl arwynebedd y tir) o'r ymerodraeth drefedigaethol ar gyfandir Affrica, ond hefyd am mai'r trefedigaethau hynny, gan mwyaf, y bu dynion yn meddwl amdanynt pan fu Pwerau "anfodlon" Ewrop yn traethu eu hawliau, yn ystod y blynyddoedd diweddar, i gael rhan helaethach o drefedigaethau. Y mae'n rhaid edrych ar broblem trosglwyddo trefedigaethau yn erbyn cefndir terfysg economaidd ac ansefydlogrwydd cymdeithasol a greodd ofnau ymhob gwlad. Gyrrwyd llywodraethau i geisio sicrhau hunan-ddigonoldeb economaidd, i amddiffyn eu diwydiannau eu hunain a'u cyflenwad o ddefnyddiau crai ar draul eiddo rhai eraill. Ac er na allodd eu hymerodraethau achub Prydain Fawr a Ffrainc o boenau dirwasgiad economaidd, bu eu meddiannau eang yn ddigon i greu eiddigedd yn yr Almaen, yr Eidal a Japan. Y mae'r Pwerau "anfodlon" hyn yn dadlau y dylid rhannu'r trefedigaethau o newydd, ar sail tri phwynt. Yn y lle cyntaf,
Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/31
Prawfddarllenwyd y dudalen hon