Yn ogystal â bod yn wlad brydferth iawn, y mae'n wlad lawn o ramant a thraddodiadau llenyddol a hanesyddol. Dyma wlad Caradog, Brenin y Siluriaid, a wrthsafodd holl allu Rhufain am lawer blwyddyn. Dyma wlad Esyllt, mam Hafren, a roddodd ei henw i Fôr Hafren. Am y wyryf hon y cân Milton yn ei "Comus," wedi dysgu'r stori o Frut y Brenhinoedd gan Sieffre o Fynwy. Dyma gyrchfan y Daniaid (y Paganiaid Duon, fel y'u gelwid) a'r Gwyddelod ar eu teithiau ysbeilio. Yn ogofâu glan y môr y rhanbarth hwn, mewn blynyddoedd diweddarach, y bu môr-ladron ac ysmyglwyr Sianel Bryste yn cuddio eu nwyddau.
Yn y Fro ceir cromlechi, croesau, cestyll, ac eglwysi hynafol a phrydferth, ac yma, yn Llanilltud Fawr a Llancarfan, cafwyd, yn y bumed ganrif, ddechrau addysg golegol yng Nghymru. Ceir yn y Fro heddiw fythynnod tô gwellt, gwyngalchog, "Morgannwg muriau gwynion"; cawn yma wastadedd llydan, tir ffrwythlon a daear gyfoethog. Fel hyn y canodd Iolo Morganwg am ei hoff fro:—
"Llawn adar a gâr y gwŷdd,
A dail a blodau dolydd,
Coed osglog, caeau disglair,
Wyth ryw ŷd, a thri o wair;
Perlawr pawrlas, mewn glas glog,
Yn llannaidd a meillionnog."
"Morgannwg ym mrig ynys
A byrth bob man, llan a llys."