Rhufeinig ar yr ynys. Y mae yma ffynnon Rufeinig, a gelwir hi yn Ffynnon Barrug (Sant Barruc, yn ôl traddodiad, a roddodd ei enw ar yr ynys). Fel ynysoedd eraill, er enghraifft, Ynys Enlli ac Ynys Pŷr (Caldey), ystyrid Ynys y Barri unwaith yn gysegredig, ac felly yr oedd yn fan hoff i gladdu ynddi. Dywedir bod tua phum mil o bobl wedi eu claddu ar yr ynys hon. Bu llawer dyn enwog yn trigo ar yr ynys, ac yn eu plith Sant Samson o Lydaw. Y mae cysylltiadau hanesyddol rhwng Ynys y Barri a theulu Gerallt Gymro (Gerald de Barri) a diddorol yw cofio bod perchen presennol yr Ynys (Iarll Plymouth) yn disgyn o'r un teulu.
Cysylltir tri Sant â'r Barri, Sant Barruc a roddodd, yn ôl traddodiad, ei enw i'r ynys, fel y dywedwyd eisoes, Sant Dyfan a Sant Catwg. O fewn taith hanner awr i'r Coleg y mae dwy eglwys a elwir ar ôl y ddau sant Cymreig hyn, Dyfan a Chatwg. Cred hen frodorion yr ardal fod Sant Dyfan wedi ei ferthyru, a chofnodir hynny yn enw'r eglwys, Merthyr Dyfan. Cafodd Tregatwg ei henw ar ôl Catwg Ddoeth. Chwi wyddoch, rwy'n siwr, mai i Gatwg Ddoeth y priodolir nifer mawr o ddywediadau doeth a ddaeth yn ddiarhebion ymhlith y Cymry. Un o'r rhai mwyaf adnabyddus yw, "Cas gŵr na charo'r wlad a'i maco."
Y mae'r ddwy eglwys hyn yn nodweddiadol o eglwysi Bro Morgannwg. Safant mewn cilfach (neu gwpan) o olwg y môr. Yr oedd rheswm digonol am eu hadeiladu felly, oherwydd yn y