Gwirwyd y dudalen hon
canrifoedd cynnar yr oedd Môr Hafren yn gyrchfan môr-ladron Danaidd, a'u gwaith cyntaf hwy oedd llosgi ac anrheithio'r eglwysi. (Dywedir bod Llanilltud Fawr wedi ei llwyr ddifetha gan y Daniaid hyn.) Felly, adeiladwyd yr eglwysi mewn mannau diogel, tawel, o olwg y môr. Y mae gan y ddwy eglwys hyn enghreifftiau da o'r math o dyrau a geir yn y Fro. Tŵr ysgwâr sydd gan eglwys Merthyr Dyfan, tra y mae tŵr eglwys Tregatwg ar lun cefn cyfrwy. Y mae'r ddwy eglwys yn fach a phrydferth, ac ym mynwent y llan ym Merthyr Dyfan ceir y tu allan i ddrws y de sylfaen hen groes Geltaidd. Dyma nodwedd arall ar eglwysi Bro Morgannwg.