1813
"Truth and good works met together in her,
In piety and obedience she lived In peace and joy she died,
Reader
Go thou and do likewise."
Y mae sillafiaeth a gramadeg yr un a ganlyn yn ddiddorol:—
1834—1836
"Harmless babes lies buried here,
Who to their Parents was most dear
With innocence their surely drest
And in Christ's arms they takes their rest."
Y tu mewn i'r eglwys gorwedd rhywun a fu farw yn 129 mlwydd oed. Ymddengys nad oedd yn hawdd ffarwelio â Bro Morgannwg yn y dyddiau a fu!
Saif Neuadd y Dref yn agos i'r Eglwys, ac y mae'n ddiddorol iawn. Adeiladwyd hi yn amser cynnar y Normaniaid, ond nid yw'r adeilad presennol yn hŷn na'r bymthegfed ganrif. Adroddir nifer o storïau hynod am y Neuadd. Dywed un i Edgar, Brenin y Saeson, ladrata'r clychau a chychwyn â hwy ganddo i ffwrdd, ond collodd ei leferydd yn llwyr, ac nis adferwyd nes iddo anfon y clychau'n ôl i'w gwir berchnogion. Nid oedd sôn am Gymdeithas Cynllunio Trefi pan adeiladwyd Llanilltud Fawr. Pa le bynnag y cychwynnwch, byddwch yn sicr o gyrraedd yr