Er mai Dyfrig oedd sylfaenydd Coleg y myneich, cysylltir Llancarfan yn arbennig ag enw Catwg Ddoeth. Iddo ef y priodolir cynifer o ddywed— iadau doeth a fabwysiadwyd gan y Cymry fel diarhebion. Gelwid y pentref unwaith yn Bangor Catwg, a dywedir mai dyna'r lle y ganwyd Catwg, ac mai yma yn hen ŵr 120 oed, yn llawn doethineb, y bu farw.
Fel yn Llanilltud Fawr yr eglwys yw'r adeilad pwysicaf a mwyaf mawreddog yn y pentref. Carech felly wybod rhywbeth amdani. Cawn gyfeiriad ati mor gynnar â'r flwyddyn 720 pan adroddir am lifogydd dinistriol y flwyddyn honno. Gwelir hefyd gyfeiriad arall at Eglwys Llancarfan yn y flwyddyn 1150. Rhyw dro, efallai, darllenwch am y croniclydd Caradog o Lancarfan. Gwelwch wrth ei enw fod cysylltiad rhyngddo a'r pentref bychan hwn. Bu ef farw yn y flwyddyn 1157.
Ond at hen eglwys gynnar y mae'r cyfeiriadau hyn, oherwydd nid adeiladwyd rhan hynaf yr eglwys bresennol cyn y ddeuddegfed ganrif, a chysylltir hi ag enw Walter de Mappes, Archddiacon Rhydychen, a brodor o Fro Morgannwg. Coffeir ei enw hyd heddiw yn y pentref Walterstown ger Llancarfan. Yn ôl pob tebyg yr oedd un amser ddwy gangell i'r eglwys—un i'r myfyrwyr a drigai yn Llanfeithin a Charn Llwyd, a'r llall i'r plwyfolion. Yr oedd yno unwaith hefyd "lofft y grog," o'r lle yr hongiai'r groes. Gwelir y bracedi a ddaliai'r ysgrîn yn amlwg ddigon