PORTH PRYDFERTH BEAUPRÉ
UN PRYNHAWN hyfryd o Fai, dyma dair ohonom—a'n te mewn basgedi—yn cychwyn am Fro Morgannwg lon. Gadawsom y Coleg o'n holau, a theithiasom trwy barc prydferth Porth Ceri, heibio i'r tai to gwellt hynafol yn y pentref o'r un enw; wedyn gyda glan y môr i Rhoose a Llandathan (St. Athan's) gan gyfeirio'n camre at Beaupré a orwedd rhwng Llandathan a'r Bontfaen.
'Roedd y cloddiau yn drwm gan dlysni, y coed yn ddeiliog, a'r blodau cyffredin—os cywir galw blodau yn gyffredin yn eithriadol o brydferth. 'Roedd blodau'r garlleg a blodau glas y llwyn yn afradloni'r perthi â'u lliwiau cyfoethog. Llanwyd ni â gorfoledd fel yr adar, ac yn ein calonnau canasom gerdd i'r haf cynnar. Yn sicr yr oedd Ceiriog yn iawn pan ganodd:—
Pe na bai oerni'r gaeaf Ni theimlem wres yr haf."
Beth bynnag, 'rwy'n sicr na buasai'r tair ohonom—a ni yn ferched prysur—wedi mwynhau'r prynhawn gystal pe bai digonedd o seibiant yn eiddo i ni. Canodd y fronfraith ei chân yn agos atom, "bob nodyn ddwywaith," fel pe am gadw cwmni â'r llawenydd yn ein calonnau.
Ceisio yr oeddem Beaupré, a gallaf ddweud wrthych nad yw'n hawdd iawn ei gael. Dyma