porth dair rhan, bob un ohonynt wedi ei cherfio yn null pensaerniaeth Groeg, yn ôl urddau Dorig, Ionig a Chorinth. Y mae'r gwaith yn odidog yn ei holl fanylion, yn brydferthwch i'r llygad, a llawenydd i'r galon.
Efallai y carech wybod sut y crewyd y porth prydferth hwn ym mro dawel Morgannwg. Y mae'r stori yn ddiddorol dros ben. Yn ôl Iolo Morganwg, adeiladwyd ef gan Richard Twrch, saer maen ieuanc o'r Coety, ger Pen-y-bont. Clywaf rai ohonoch yn holi ymha fodd y daeth hwn i wybod am dair urdd pensaerniaeth Groeg. Wel, dyma'r stori. Carai eneth brydferth o'i bentref genedigol, ond ni fynnai hi mohono. Ergyd drom oedd hon i Richard Twrch, a dyma fe'n cychwyn oddi cartref a theithio cyfandir Ewrop, ac o'r diwedd dyfod i Rufain. Yno y bu'n gweithio gyda Phalladio, un o benseiri cyfnod y Dadeni. "Eithr y mae'r Cymro'n teithio ond nid yw'n ymfudo," ac un diwrnod teimlodd y Cymro alwad y Fro. Dychwelodd adref i adeiladu, ac adeiladu yn y fath fodd fel y teimlwn heddiw ymhen tair canrif a mwy nad y bardd yn unig sydd, "yn dysgu i eraill mewn cân yr hyn a ddysgodd ef ei hun trwy ddioddefaint." Dyma gân wedi ei cherfio mewn carreg.
Credir mai Richard Twrch a adeiladodd dŷ newydd Castell Sant Fagan, ac ehangu castell Llandunod i Syr Edward Stradling. Y mae'n sicr mai ef a adeiladodd faenordy Llanfihangel, oherwydd y mae'r lle tân yn union yr un fath ag