Carodd ryddid yn fawr, ac yr oedd yn edmygydd dwfn o Wilberforce, rhyddhawr y caethion. Yn ddiamau, yr oedd ganddo argyhoeddiad cryf ar fater caethwasiaeth. Dywedir iddo wrthod ffortiwn gan ei fod ei fod yn ofni bod yr arian yn llwgr drwy fasnach mewn caethion.
Adroddir llawer stori am ei gariad tuag at anifeiliaid a'i serch tuag at ei ferlyn a âi gydag ef ar ei deithiau hir fel cwmni, ac nid er mwyn ei gario.
Chwi gofiwch i mi ddweud wrthych iddo fyw yn y Bontfaen, a chadw siop lyfrau yno. Saif honno gyferbyn â Neuadd y Dref, a gwelwch heddiw garreg goffa i Iolo ar y mur.
Er gwaethaf ei hynodion, anodd eu dirnad, cofiwn iddo wasanaethu Cymru yng ngwir ysbryd cariad. Heb os nac onibai carodd Forgannwg yn angerddol, a theilynga le fel un o wŷr enwog y Fro.