EMYNWYR BRO MORGANNWG
DYWEDAIS ychydig wrthych yn y bennod o'r blaen am Iolo Morganwg (Edward Williams). Yn y bennod hon carwn roddi ychydig hanes am dri o emynwyr y Fro. Gwyddoch am hen draddodiadau'r Cymry fod rhyw hud arbennig yn perthyn i'r rhif tri. Y mae hyn yn wir hefyd am draddodiadau cenhedloedd eraill.
Yn awr y mae'n hynod mai Williams oedd enw'r tri emynydd hyn, er nad oeddynt, cyn belled ag y gwn i, yn perthyn o gwbl i'w gilydd. Fe gredwch, mae'n debyg felly, fod Williams yn enw cyffredin iawn ym Mro Morgannwg.
Heddiw carwn fynd â chwi ar bererindod i'r mannau lle y gorffwysa'r tri emynydd. Yn y Canol Oesoedd yr oedd pererindodau yn gyffredin iawn, a gallasem ninnau yn yr ugeinfed ganrif wneuthur gwaeth peth nag efelychu'r amseroedd gynt yn hyn o beth.
Yn Llyfr Du Caerfyrddin, perl llawysgrifau Cymru, a ysgrifennwyd yn y ddeuddegfed ganrif, y mae penillion a elwir "Englynion y Beddau," a dechreua pob un gyda'r geiriau "Piau y bedd hwn?" Wel, fe awn am dro i dair mynwent, a cheisio ateb y gofyniad hwn deirgwaith.
Yn gyntaf, gadewch i ni ymweled â Llandathan, pentref bychan tua phedair milltir i'r deau o'r Bont Faen. Yma y mae eglwys ar ffurf croes, ac