EWENNI
TUA dwy filltir o Ben-y-bont gorwedd pentref Ewenni ynghyda'i Briordy enwog a'i briddweithfa a fu'n gweithio'n gyson am gan mlynedd. Byddai ymweled â'r briddweithfa yn ddiddorol iawn, ond heddiw awn heibio, gan gerdded drwy'r pentref, ac ymlaen i'r Priordy. Ar ein ffordd pasiwn heibio i gartref Edward Mathews, y pregethwr Methodistaidd enwog. Gŵr santaidd amryddawn ydoedd, yn llawn huodledd, ac yn feistr ar dafodiaith y Fro, sef y Wenhwyseg. Gresyn bod yr iaith bersain hon yn diflannu o'r Fro, a Saesneg gwael yn cymryd ei lle.
Dywed Crwys wrth dalu teyrnged i gof yr enwog ŵr yn ei gân:—
MATHEWS BIAU'R FRO
"Gall mai'r Barwn a'r pendefig
Sy'n cael rhent ei herwau bras,
A bod ambell symlyn gwledig
Yn tynnu'i het i ŵr y plas;
Ond o dreulio yng ngardd y gerddi
Dridiau difyr ar fy nhro,
Hawdd yw gweld mai'r gŵr o'r 'Wenni—
Edward Mathews biau'r Fro."
Er iddo farw fe erys ei ddylanwad i godi a phuro pobl,