"Ac er hardded Bro Morgannwg,
Heddyw, daw'n fireiniach darn,
Am fod coeddiad Edward Mathews
Yn y fro hyd fore'r Farn."
Awn heibio a chyrhaeddwn y Priordy. Er nad yw mor adnabyddus i drigolion Prydain ag yr haeddai fod, y mae myfyrwyr pensaernïaeth yr Almaen a gwledydd tramor eraill yn ymweled yn aml ag Ewenni. Cyfarfûm ag Americanwyr yno fwy nag unwaith.
Paham y daw'r bobl hyn i ymweled â'r lle, ac y dylem ninnau wybod mwy amdano? Oherwydd mai dyma'r esiampl orau o saerniaeth y Norman sydd gennym drwy Gymru benbaladr. Adeiladwyd y priordy yn y flwyddyn 1146. Yr oedd yn perthyn i'r Benedictiaid, ac yn gysylltiedig ag Eglwys Gadeiriol Caerloyw. Sefydliad crefyddol estron ydoedd, ac felly rhaid oedd iddo'i amddiffyn ei hun rhag y Cymry brodorol. Yn naturiol nid oedd cydymdeimlad o gwbl rhwng y Cymry a hwy. 'Roedd amddiffynfeydd y priordy yn effeithiol iawn gan fod tyrau a muriau caerog cryf iddo. Erys rhai o'r muriau hyd heddiw ynghyd â thŵr porthcwlis cryf ac ysblennydd, a hwnnw mewn stad dda iawn, er bod y rhan arall o'r priordy, ag eithrio'r eglwys, wedi diflannu.
Fel yn eglwys Llancarfan, gellir dweud bod yma ddwy eglwys o dan yr un to—eglwys y mynachod ac eglwys y Plwyf, ond yn Ewenni gwahenir y ddwy oddi wrth ei gilydd gan fur. Gwelwn nifer o gofgolofnau, ac olion diddorol yn