dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i’r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i’r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong, ond myned o’i ddisgyblion ymaith eu hunain;
6:23 (Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i’r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i’r Arglwydd roddi diolch:)
6:24 Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu.
6:25 Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma?
6:26 Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau, a’ch digoni.
6:27 Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad.
6:28 Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a I wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw?
6:29 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe.
6:30 Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?
6:31 Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta.
6:32 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef.
6:33 Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd.
6:34 Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni’r bara hwn yn wastadol.
6:35 Ar Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.
6:36 Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu.
6:37 Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r hwn a ddal ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.
6:38 Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys hwn a’m hanfonodd.
6:39 A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf.
6:40 A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.
6:41 Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef.
6:42 A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais?
6:43 Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd.
6:44 Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf.
6:45 Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi.
6:46 Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad.
6:47 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol.
6:48 Myfi yw bara’r bywyd.
6:49 Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw.
6:50 Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw.
6:51 Myfi yw’r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw