yn y cyfnos, arogl-darthed arni arogl-darth gwastadol ger bron yr Arglwydd, trwy eich cenhedlaethau.
9 Nac offrymmwch arni arogl-darth dïeithr, na phoeth-offrwm, na bwyd-offrwm; ac na thywelltwch ddïod-offrwm arni.
10 A gwnaed Aaron gymmod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymmod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymmod arni trwy eich cenhedlaethau; sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi.
11 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
12 Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i’r Arglwydd, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt.
13 Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ol sicl y cyssegr: ugain gerah yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd.
14 Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i’r Arglwydd.
15 Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i’r Arglwydd, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau.
16 A chymmer yr arian cymmod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel ger bron yr Arglwydd, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau.
17 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
18 Gwna noe bres, a’i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor: a dod ynddi ddwfr.
19 A golched Aaron a’i feibion o honi eu dwylaw a’u traed.
20 Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogl-darthu aberth tanllyd i’r Arglwydd.
21 Golchant eu dwylaw a’u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i’w had, trwy eu cenhedlaethau.
22 ¶ Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
23 Cymmer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pùm càn sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau;
24 Ac o’r casia pwys pùm cant o siclau, yn ol sicl y cyssegr; a hin o olew olew-wydden.
25 A gwna ef yn olew enneiniad sanctaidd, yn ennaint cymmysgadwy o waith yr apothecari: olew enneiniad sanctaidd fydd efe.
26 Ac enneinia âg ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth,
27 Y bwrdd hefyd a’i holl lestri, a’r canhwyllbren a’i holl lestri, ac allor yr arogl-darth.
28 Ac allor y poeth-offrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed.
29 A chyssegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd.
30 Enneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chyssegra hwynt, i offeiriadu i mi.
31 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew enneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenhedlaethau.
32 Nac enneinier âg ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.
33 Pwy bynnag a gymmysgo ei fath, a’r hwn a roddo o hono ef ar ddyn dïeithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
34 ¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymmer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un.
35 A gwna ef yn arogl-darth arogl-bêr o waith yr apothecari, wedi ei gyd-dymheru, yn bur ac yn sanctaidd.
36 Gan guro cur yn fân beth o hono, a dod o hono ef ger bron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi.
37 A’r arogl-darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i’r Arglwydd.
38 Pwy bynnag a wnel ei fath ef, i arogli o hono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.